P-04-394 Achub ein Gwasanaethau – Ysbyty Tywysog Philip
Geiriad y
ddeiseb:
Rydym ni, pobl Llanelli, y dref â’r boblogaeth fwyaf yn ardal Hywel Dda, yn mynnu bod Ysbyty Tywysog Philip yn cael ei adfer yn Ysbyty Cyffredinol Dosbarth cwbl weithredol, a bod llawfeddygaeth ddewisol fawr yn dychwelyd yno, gan gynnwys llawfeddygaeth gastroberfeddol, fasgwlaidd, ac ym meysydd wroleg, gynecoleg a thrawma. Byddai hynny wedi’i gefnogi gan y 5 gwely Uned Therapi Dwys gwreiddiol, a fyddai wedi’u staffio’n llawn, ac a fyddai’n cefnogi Adran Damweiniau ac Achosion Brys wedi’i staffio’n llawn, y byddai arbenigwyr ymgynghorol yn ei harwain, gan ddarparu cymorth i’r meddygon.
Cyflwynwyd y ddeiseb gan: Rhwydwaith Gweithredu Tywysog Philip
Ystyriwyd y ddeiseb am y tro cyntaf:29 Mai 2012
Nifer y llofnodion: tua 24,000